
Amdanom Ni
Pwy Ydym Ni?
Mae Sarah Lloyd yn aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban
Wedi’i geni a’i magu yn y Fenni, enillodd radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Nottingham cyn ymuno â Deloitte & Touche, Caeredin
Ar ôl cymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig symudodd Sarah adref i Gymru, gan weithio i gwmni yng Ngorllewin Cymru a oedd yn canolbwyntio ar fusnesau a reolir gan y perchnogion a threthiant personol cyn dechrau Cyfrifwyr Siartredig Sarah Lloyd yn 2011
Yn ei hamser hamdden mae Sarah yn mwynhau chwarae’r delyn, gwylio rygbi a saethu colomennod clai. Mae hi hefyd yn cynorthwyo ei gŵr gyda’u praidd o famogiaid masnachol a defaid Charmoise pedigri.


